

Ieuenctid Heb Gyfyngiadau Yn Fyw: Caerdydd
Nid ffair yrfaoedd arferol arall ydy Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW: Tu Hwnt i’r CV, dyma gyfle i gyfoethogi eich siwrnai DofE ac i sylweddoli nad oes cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch ei gyflawni yn y gweithle.
Beth i’w ddisgwyl ar y dydd
Yn ystod y digwyddiad, byddwch chi’n clywed beth mae’r cyflogwyr mwyaf yn chwilio amdano pan fyddan nhw’n penodi pobl, yn cael eich ysbrydoli gan bobl ifanc sy’n torri eu cwys eu hunain yn eu gyrfaoedd, ac yn cwrdd â chyflogwyr a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc er mwyn cael gwybod am y gwahanol lwybrau gyrfa ar draws gwahanol ddiwydiannau sydd ar gael i chi.
Byddwch chi hefyd yn cael cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol i ystyried sut i sicrhau profiad gwaith, cynghorion ar gyfer paratoi am gyfweliad, mathau effeithiol o gyfathrebu, sut i adrodd eich stori bersonol a mwy!
Mae mynychu’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Bydd cinio a lluniaeth drwy’r dydd yn cael eu darparu, yn ogystal â deunyddiau sydd eu hangen er mwyn cyfranogi’n llawn yn y digwyddiad. Bydd angen i fynychwyr fod yn gyfrifol eu hunain am deithio i’r digwyddiad ac oddi yno.
Pwy sy’n gallu mynychu?
Mae’r digwyddiad yn gwbl hygyrch ac yn agored i rai sy’n cymryd rhan yn DofE ar hyn o bryd a’r rhai sydd wedi ennill Gwobr sydd rhwng 16-19 oed. Mae’r diwrnod wedi’i gynllunio â phobl ifanc mewn golwg a bydd yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth gwerthfawr, p’un ai ydych chi’n dal yn yr ysgol ac yn dechrau meddwl am eich opsiynau o ran gyrfa, mewn addysg bellach, neu wedi cychwyn ym myd gwaith eisoes.
Sut i ymrestru
Ar gyfer Sefydliadau Trwyddedig
Gwahoddir Sefydliadau Trwyddedig i gofrestru eu diddordeb mewn dod â grwpiau o bobl ifanc i’r digwyddiad. Rhaid i o leiaf un oedolyn o’r Sefydliad Trwyddedig fynychu gyda nhw.
Gweithdai
Mae’r hyfforddwr perfformiad Nigel Risner yn awgrymu y gellir rhannu pobl yn 4 gr?p ar sail eu harddull cyfathrebu dewisol – Llewod, Parotiaid, Dolffiniaid ac Eliffantod.
Gofynnir i’r rhai sy’n cymryd rhan gwblhau cwis byr er mwyn iddynt gael gwybod pa anifail ydyn nhw, a darganfod nodweddion pennaf eu personoliaeth a’u cyfathrebu. Gyda’r wybodaeth newydd honno, gallant ddechrau cyfathrebu’n fwy effeithiol. Bydd y gweithdy hefyd yn cynnwys gweithgaredd byr i ddangos arddulliau cyfathrebu pob un o’r 4 anifail/math o bersonoliaeth.
Ymunwch â’n sesiwn i gael deall sut gallwch chi sicrhau profiad gwaith mewn cwmnïau amrywiol!
Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch chi’n deall y gwahanol fathau o brofiad gwaith, pa elfennau mewn profiad gwaith sy’n bwysig ar gyfer eich dyheadau personol o ran gyrfa, a byddwch chi’n gosod cynllun gweithredu realistig o gamau nesaf y gallwch eu cymryd er mwyn ymchwilio a sicrhau profiad gwaith.
Ymunwch â’n sesiwn er mwyn cael y cyfle i ymgymryd â thasgau sy’n mynd i’r afael â hyblygrwydd, cadernid a sgiliau rhyngbersonol wrth fod dan bwysau, i sicrhau canlyniadau’n llwyddiannus. Dysgwch sut all y gwersi a ddysgwyd yn ystod eich DofE eich cefnogi yn y gweithle, yn benodol eich sgiliau addasu a chyfathrebu. Ar ddiwedd y sesiwn, dylech allu myfyrio ar eich cyfranogiad a sut y gwnaethoch ddelio â heriau annisgwyl.
Dewch i ymuno â’n sesiwn ar gyfer dysgu am y gwahanol ffyrdd i ymuno â’r farchnad swyddi, gydag awgrymiadau i’ch helpu i ddod o hyd i’r llwybr sydd fwyaf addas i chi. Byddwch hefyd yn clywed am Uwch Arweinwyr yn Centrica, a’u llwybrau gyrfa igam-ogam ar gyfer dysgu beth allwch chi ei gyflawni gydag amrywiaeth o lwybrau.
Mae ymchwil wedi dangos bod pobl ifanc yn teimlo’n fwyfwy pryderus yngl?n â chanfod cyfleoedd yn y byd ôl-COVID sydd ohoni. Rydym yn arfogi pobl ifanc â’r hunan-gred sydd ei hangen i gynnal eu hunain wrth osod dyheadau gyrfaol, a gosod nodau yn eu bywydau personol. Rydym yn credu hefyd mai’r arf fwyaf pwerus sydd gan bob un ohonom wrth ganfod ein ffordd yn y byd ydy ein stori bersonol – felly rydym yn rhoi fframwaith i bobl ifanc gael gwybod a deall eu straeon eu hunain, a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn bloeddio am hynny gerbron y byd.


