Ein huchelgais

Mae miliynau wedi trawsnewid eu bywydau drwy’r DofE. Rydym nawr eisiau galluogi pob person ifanc yn y DU i fwynhau ei buddion. Erbyn 2020/21 rydym yn anelu at:

– Gynyddu’r nifer o bobl ifanc sy’n dechrau rhaglen DofE bob blwyddyn i 350,000 (287,937 ffigwr 18/19), gyda 20% (70,000) o gefndiroedd difreintiedig.

– Sicrhau cyfradd gwblhau gyfartalog o 60+%.

Yr Ystadegau Diweddaraf

Sut ydym yn gweithredu

Rydym yn trwyddedu ac yn cefnogi ystod o sefydliadau gan gynnwys: ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid, sefydliadau troseddwyr ifanc, asiantaethau maethu ac ysbytai i gynnal rhaglenni DofE ar gyfer eu pobl ifanc.  

Boys gardening
Tîm gweithredol

Mae ein Tîm Rheoli Gweithredol yn cydweithio i dyfu’r ddarpariaeth o’r DofE fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cael y cyfle hwn sy’n newid bywydau.

Badminton
Ymddiriedolwyr

Mae ein Hymddiriedolwyr yn pennu cyfeiriad strategol yr elusen, yn monitro’r gwaith o gyflawni ei hamcanion ac yn cynnal ei gwerthoedd a llywodraethiant.

Young woman and man sat in front of laptop laughing
Y Cyfryngau

Mae yna lawer o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yn digwydd yn y DofE felly p’un a ydych yn ysgrifennu erthygl am brentisiaethau neu wirfoddoli, sgiliau bywyd neu dderbyniadau prifysgol, gallwn helpu.

Ar gyfer newyddion DofE, straeon pobl ifanc a datganiadau i’r wasg, edrychwch ar Y Diweddaraf.

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cyffredinol yn ymwneud â Gwobr Dug Caeredin, cysylltwch â 01753 727400 neu [email protected]. Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau brys y tu allan i oriau ffoniwch 07557 286560.

Young woman at top of hill with arms in the air celebrating, overlayed with text that says Proud to be The Duke of Edinburgh's International Award in the UK
Cyrhaeddiad rhyngwladol

Mae’r DofE yn falch o fod yn rhan o Sefydliad Gwobrwyo Rhyngwladol Dug Caeredin sy’n cefnogi gweithredwyr mewn mwy na 130 o wledydd a thiriogaethau i ddarparu DofE a chynyddu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc.

Hanes

Ystyriodd Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin y syniad o raglen genedlaethol i gefnogi datblygiad pobl ifanc, am y tro cyntaf yn ystod hydref 1954 ar gais ei gyn ysgolfeistr ysbrydoledig, Kurt Hahn.

Yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, roedd Ei Uchelder Brenhinol eisiau llenwi’r bwlch rhwng gadael addysg ffurfiol yn 15 oed a mynd i mewn i’r Gwasanaeth Cenedlaethol yn 18 oed, fel bod dynion ifanc yn gwneud y defnydd gorau o’u hamser rhydd, yn canfod diddordebau ac yn caffael hunanhyder a synnwyr o bwrpas a fyddai’n eu cefnogi i’r dyfodol ac yn eu helpu i ddod yn ddinasyddion cadarn.

Yn dilyn trafodaethau gyda’r Gweinidog Addysg ym 1955, ymgynghorydd Dug Caeredin â nifer o sefydliadau ieuenctid, gwirfoddol, cenedlaethol ag aelodau ‘bechgyn’ gyda’r bwriad o ddechrau cynllun peilot.

Dan arweiniad Syr John Hunt (yr Arglwydd Hunt yn ddiweddarach), a ddarparodd y gweinyddu a’r cydlynu angenrheidiol ymhlith y sefydliadau partner fel y Cyfarwyddwr cyntaf, lansiwyd cynllun peilot ar gyfer Gwobr Dug Caeredin ym mis Chwefror 1956. Roedd gan y rhaglen bedair rhan; Achub a Gwasanaeth Cyhoeddus, Alldeithiau, Gorchwylion a Phrosiectau, a ffitrwydd, a fyddai’n cefnogi, arwain ac uwchsgilio dynion ifanc yn holistaidd yn ôl gweledigaeth y Dug.

I ddechrau arni, dim ond sefydliadau ieuenctid gwirfoddol, cenedlaethol oedd yn rhan o’r cynllun peilot a mynychodd nifer gynhadledd gynllunio yng Ngholeg Ashridge yn Swydd Hertford ym mis Mawrth, 1956. Fodd bynnag, yn fuan iawn ehangwyd y rhaglen i gynnwys Awdurdodau Addysg Lleol, y Llynges, y Fyddin a’r Awyrlu Brenhinol, a llond llaw o ysgolion annibynnol a gramadeg ledled y DU. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, roedd 7,000 o fechgyn wedi dechrau rhaglen DofE ac roedd 1,000 o Wobrau wedi cael eu dyfarnu.

Yn wir, roedd y cynllun peilot mor llwyddiannus nes erbyn yr ail flwyddyn, roedd cynlluniau peilot tramor bychain a rhaglen ar gyfer merched wedi cael eu sefydlu. Ar ben hynny, roedd nifer y sefydliadau a phobl ifanc a oedd yn cymryd rhan wedi mwy na dyblu.

Parhaodd y DofE i esblygu dros y degawdau dilynol ac ym 1980 ymestynnwyd y terfyn oedran fel bod unrhyw berson ifanc rhwng 14 a 24 oed yn gallu cymryd rhan. Ar yr adeg hon, dechreuodd y rhaglenni DofE ddefnyddio eu fformat pedair rhan presennol: Gwirfoddoli, Corfforol, Sgiliau ac Alldaith, gydag adran Breswyl ychwanegol ar lefel Aur.

Mae poblogrwydd y rhaglen yn parhau i dyfu, gyda dros 130 o wledydd a thiriogaethau, bellach, yn cynnig rhaglenni DofE fel rhan o Sefydliad Gwobrwyo Rhyngwladol Dug Caeredin. Yn y DU yn 2018/19, dechreuodd 287,937 o bobl ifanc raglen DofE a dyfarnwyd y nifer mwyaf erioed o Wobrau, 153,284 drwy ysgolion, colegau, prifysgolion, clybiau ieuenctid, busnesau, cymdeithasau tai, sefydliadau troseddwyr ifanc, sefydliadau gwirfoddol a mwy.

Timeline
1956
Dechreuodd Gwobr Dug Caeredin i fechgyn. Roedd yn cynnwys yr elfennau achub a gwasanaeth cyhoeddus, alldeithiau, gweithgareddau a phrosiectau, a ffitrwydd.
1957
Caiff Gwobr Dug Caeredin i ferched ei rhoi ar brawf. Roedd y rhaglen yn cynnwys dylunio ar gyfer byw, antur a diddordebau a gwasanaeth.
1959
Daeth Gwobr Dug Caeredin yn Ymddiriedolaeth elusennol.
1969
Lansiwyd Gwobr Dug Caeredin i bobl ifanc rhwng 14 a 21 oed.
1975
Mae miliwn o bobl ifanc bellach wedi dechrau eu rhaglen DofE.
1980
Caiff un rhaglen i bob person ifanc ei gweithredu. Roedd yn cynnwys yr elfennau gwasanaeth, alldaith, sgiliau, ymarfer corff a phrosiect preswyl ychwanegol ar lefel Aur.
1986
Enillodd Ei Uchelder Brenhinol Iarll Wessex ei Wobr Aur.
1988
Sefydlir y Gymdeithas Wobrwyo Ryngwladol.
2001
Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn trosglwyddo Cadeiryddiaeth o'r Ymddiriedolwyr i Syr Tom Farmer, ond mae'n parhau'n Noddwr.
2004
Caiff yr adran alldaith ei thrawsnewid yn gyfan gwbl i fod yn hygyrch i bawb.
2006
Rhaglen Gwobr Dug Caeredin yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed a dyfernir Siarter Brenhinol iddi.
2009
Caiff system reoli ar-lein DofE, eDofE ei lansio.
2010
Cyhoeddir ymchwil annibynnol, a gefnogir gan Sefydliad Pears, sy'n dangos effaith gadarnhaol DofE ar bobl ifanc sy'n cymryd rhan.
2016
Rhaglen Gwobr Dug Caeredin yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed a lansir Her Ddiemwnt DofE.
2016
Beiciodd Ei Huchelder Brenhinol Iarlles Wessex o Balas Holyroodhouse i Balas Buckingham fel ei her ddiemwnt DofE a llwyddodd i godi dros £100,000.
2017
Gwobr Dug Caeredin yn lansio Antur DofE, cyfle i bawb 18+ oed gael blas o alldaith wrth godi arian ar gyfer elusen.
2018
Ei Uchelder Brenhinol Iarll Wessex yn cyflawni Her Dennis 2018, gan godi dros £2m i'r DofE yn y DU ac yn fyd-eang drwy chwarae ar bob cwrt tennis dan do ledled y byd.
2019
Cronfa Ddiemwnt y DofE, sy'n cynnwys arian a gesglir drwy Her Ddiemwnt a buddsoddiad gan y gronfa #iwill - menter gyllido ar y cyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon - yn cyfrannu at y nifer mwyaf erioed o bobl ifanc ddifreintiedig yn dechrau eu DofE yn 2018/19: 68,774 (cynnydd o 9% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol).

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.