A ydych chi’n berson ifanc sy’n meddwl am eich DofE neu eisoes wedi ei ddechrau? Neu efallai eich bod yn rhiant neu’n ofalwr, sy’n dymuno dysgu mwy am DofE neu helpu eich mab neu ferch drwy eu rhaglen? Dyma bopeth y mae angen i chi ei wybod.
Lefelau dyfarnu, adrannau, amseroedd, costau, buddion a mwy; cewch ddysgu am bopeth sy’n gysylltiedig â rhaglen DofE a sut y bydd yn newid eich bywyd.
Cymerwch berchnogaeth o’ch DofE a chrëwch eich rhaglen bersonol o weithgareddau; helpu eraill, gwella eich ffitrwydd, datblygu sgiliau, crwydro cefn gwlad, ac ar gyfer y wobr Aur, aros oddi cartref.
A oes gennych ferch neu fab sy’n cyflawni eu DofE? Edrychwch i weld sut y gallwch chi eu cefnogi.
Cewch gydnabyddiaeth am eich gwaith caled a chyflawni gwobr fawreddog y mae colegau, prifysgolion a chyflogwyr yn chwilio allan amdani.
We are using cookies to give you the best experience on our site. By continuing to use our website without changing the settings, you are agreeing to our use of cookies. No, I want to find out more