Helpwch i ddathlu’r bobl ifanc orau a’r oedolion sy’n eu cefnogi.

 

 

Mae Dyma Ieuenctid yn cydnabod ac yn dathlu’r straeon anhygoel tu ôl i Wobr Dug Caeredin.

Mae’n arddangos pobl ifanc yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud arau: codi uwchben heriau’r oes hon a gwneud eu marc ar y byd, yn eu ffordd eu hunain.

P’un a ydynt newydd ddechrau ar eu taith i ennill y wobr Efydd, neu wedi cyrraedd y wobr Aur yn barod, rydym yn awyddus i ddod o hyd i’r unigolion rhyfeddol sy’n dylanwadu ar eu bywydau eu hunain a thu hwnt, ac yn defnyddio’r DofE fel sylfaen i wneud i hynny ddigwydd.

Mae’n amser i’w straeon gwych gael eu clywed.

Mae pob taith DofE yn unigryw – ond bydd pob unigolyn yn gwneud gwahaniaeth. O waith tîm ac arloesi i oresgyn heriau personol, rydym ni eisiau taflu goleuni ar y pethau anhygoel y mae pobl ifanc yn eu gwneud trwy ei DofE i ysbrydoli ac annog eraill.

Ac rydym ni’n awyddus i dynnu sylw at ymrwymiad, angerdd ac arloesedd digyffelyb yr oedolion sy’n rhoi grym i DofE – gan newid bywydau’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi.

Felly, rydym ni’n galw arnoch chi i helpu.

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi arloesi neu ddymchwel rhwystrau trwy eu DofE? Neu pwy, wrth weithio tuag at ennill eu Gwobr, sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned? A yw eich Arweinydd DofE wedi mynd y tu hwnt i helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial?

Hoffem glywed gennych chi.

Sut i enwebu

I enwebu person ifanc neu oedolyn sy’n gwirfoddoli, llenwch y ffurflen gais isod erbyn 11:59pm ddydd Sul 17 Medi.

Ceir enwebu cyfranogwyr sy’n cymryd rhan mewn rhaglen DofE gyfredol neu ddeiliaid Gwobrau diweddar (y rhai a enillodd Wobr rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2023) ac sy’n byw yn y Deyrnas Unedig, ynghyd ag oedolion dros 18 oed, sy’n cefnogi’r gwaith o gyflwyno rhaglenni DofE i bobl ifanc.

Bydd yr enwebiadau’n cael eu hadolygu gan banel o ffigurau cyhoeddus uchel eu proffil, pobl ifanc a chefnogwyr DofE. Credwn nad oes un diffiniad unigol o lwyddiant a chyflawniad – felly bydd ein panelwyr yn chwilio am bobl sydd wedi gwthio eu hunain ac wedi cyflawni rhywbeth eithriadol ar eu telerau eu hunain, neu sy’n gallu dangos dylanwad cadarnhaol eu gweithgareddau ar eraill.

Byddwn yn dewis pobl sy’n ysbrydoli’n wirioneddol ar draws wyth categori. Byddant wedyn yn cael eu gwahodd, gyda gwestai, i ddathliad arbennig yn Llundain. Byddwn hefyd yn rhannu eu straeon trwy fis Rhagfyr er mwyn dathlu eu cyflawniadau rhagorol ac i ysbrydoli ac annog eraill.

Rydym yn ymrwymo i amrywiaeth ac yn chwilio am enwebiadau ar gyfer pobl ifanc a gwirfoddolwyr o ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau.

Categorïau

Mae wyth categori – chwech i bobl ifanc a dau i oedolion. Rydym ni wedi cynnig rhai syniadau ar gyfer y gweithgareddau a’r cyflawniadau yr hoffem glywed amdanynt ym mhob categori, ond dim ond enghreifftiau yw’r rhain.

Rydym yn ymrwymo i amrywiaeth ac yn chwilio am enwebiadau ar gyfer pobl o ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau.

This is Youth Cwestiynau Cyffredin

Effaith Gymunedol

Cyflawnwr Newid y Flwyddyn

Mae’r categori hwn yn dathlu arwyr lleol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned.

Gallai olygu dechrau prosiect newydd mewn cartref gofal neu drefnu glanhau’r ardal leol, lansio clwb yn yr ysgol, neu gydlynu casgliadau ar gyfer banc bwyd lleol. Rydym ni eisiau clywed am y bobl ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’r rhai o’u cwmpas.

 

Digidol a Chreadigol

Dyfeisiwr y Flwyddyn

Rydym yn chwilio am bobl ifanc sy’n torri tir newydd ac yn datrys problemau gyda syniadau arloesol. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o greu cynnwys neu ddylunio cynnyrch i arloesi ffordd newydd o helpu eraill – rydym ni’n awyddus i roi cydnabyddiaeth i arloesedd.

Efallai eu bod wedi datblygu cynnyrch newydd sydd wedi helpu eraill, dogfennu eu profiadau o gyflawni DofE drwy gynnwys diddorol ar-lein, creu ap, lansio sioe radio ysbyty, neu feddwl am ateb dyfeisgar i broblem oedd yn eu dal hwy neu eraill yn ôl. Rydym am dynnu sylw at yr holl ffyrdd y mae pobl ifanc yn meddwl yn agored i ddatrys problemau a defnyddio eu creadigrwydd i ysbrydoli eraill.

Cefnogwyd gan MTC (The Manufacturing Technology Centre)

 

Hyrwyddwr Amgylcheddol

Amddiffynnydd y Blaned y Flwyddyn

O gasglu sbwriel a glanhau traeth i ymgyrchu amgylcheddol, rydym ni eisiau dathlu’r bobl ifanc sy’n mynd y tu hwnt er mwyn gofalu am yr amgylchedd.

P’un a yw’n golygu cefnogi’r gymuned leol i ailddefnyddio ac ailgylchu, diogelu natur, codi ymwybyddiaeth o faterion hanfodol mewn ysgolion, neu lanhau dyfrffyrdd, rydym ni eisiau dathlu’r ffyrdd y mae pobl ifanc heddiw yn amddiffyn y blaned ar gyfer pobl ifanc yfory.

 

Oedolyn sy’n Ysbrydoli

Newidiwr Bywydau’r Flwyddyn

Gadewch i ni roi cydnabyddiaeth i’r oedolion sydd wedi mynd y tu hwnt eleni i sicrhau bod pobl ifanc yn manteisio i’r eithaf ar y DofE.

Rydym ni eisiau dod o hyd i’r rheiny sydd wedi cael effaith drawsnewidiol dros y flwyddyn ddiwethaf – er enghraifft, lansio’r DofE yn rhywle newydd, cynyddu cyfranogiad neu godi arian er mwyn i fwy o bobl ifanc gael profiad o effaith y DofE a all newid bywydau. Rydym yn arbennig o awyddus i gydnabod a dathlu’r rhai sydd wedi dechrau ar y rôl yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Gwaith Tîm

Sêr Disgleiriaf y Flwyddyn

Rydym ni’n chwilio am grp o bobl ifanc sydd wedi dod at ei gilydd i gyflawni rhywbeth anghyffredin.

Rydym ni’n awyddus i ddod o hyd i dimau y mae eu cymhelliant a’u hysbryd ar y cyd wedi eu dyrchafu i fynd y tu hwnt i’r hyn y gallai unrhyw un ohonynt ei gyflawni ar eu pennau eu hunain. Gallai olygu gweithio mewn tîm i oresgyn her, defnyddio sgiliau cymorth cyntaf i gynnig cymorth bywyd go iawn mewn argyfwng, lansio prosiect newydd, neu sicrhau bod taith DofE yn un gynhwysol, rydym ni eisiau clywed am ber timau gwych.

 

 

Arweinyddiaeth

Arloeswr y Flwyddyn

Gadewch i ni ddathlu’r bobl ifanc sy’n dangos sgiliau arwain anhygoel trwy ddefnyddio eu lleisiau i wneud gwahaniaeth, i arwain y ffordd, neu i eirioli dros eraill.

Daw arweinyddiaeth ar sawl ffurf – nid oes un fordd sy’n addas i bawb. Gallai olygu cefnogi cyd-aelodau’r tîm, dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau neu ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol, rydym ni eisiau dathlu’r bobl ifanc sy’n torri cwys newydd ac yn dod â’u ffrindiau, eu hysgolion a’u cymunedau gyda nhw.

Cefnogir gan The Gosling Foundation

Gwydnwch

Torrwr Ffiniau’r Flwyddyn

Mae’r categori hwn yn dathlu pobl ifanc sydd wedi goresgyn eu heriau eu hunain i gyflawni rhywbeth sy’n newid eu bywydau ar lefel bersonol, gan ailysgrifennu’r rheolau ar yr hyn roeddent yn feddwl oedd yn bosib.

Beth bynnag y rhwystrau – personol, corfforol, cymdeithasol, ariannol neu emosiynol – rydym ni eisiau dathlu’r bobl ifanc sydd wedi dyfalbarhau a dangos gwydnwch rhyfeddol er mwyn cyrraedd eu nodau.

 

Gwasanaeth Eithriadol

Arweinydd y Flwyddyn

Dathlu oedolyn sydd wedi rhoi dros 10 mlynedd i gyfranogwyr DofE , a chael effaith barhaol ar bobl ifanc a chymunedau dirifedi.

Mae’r DofE yn cael ei bweru gan bobl ymroddedig, ac rydym ni’n awyddus ddathlu’r rhai sydd wedi dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad eithriadol, gan roi eu hamser, eu hegni a’u hangerdd am dros 10 mlynedd er mwyn dylanwadu o ddifri a helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial. Maent wedi bod yn greadigol eu dull, yn gynhwysol eu hagwedd, ac yn sefyll allan fel modelau rôl i eraill.

Cefnogir gan:

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.