Blog 04.03.2022

Mae ymchwil newydd yn datgelu sut all ysgolion a chyflogwyr godi hyder pobl ifanc wrth iddynt ymgeisio am swyddi

Mae DofE yn seiliedig ar gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddarganfod diddordebau newydd, datblygu sgiliau newydd a magu hyder a hunan-gred, i’w paratoi ar gyfer unrhyw beth – gan gynnwys y gobaith o gael swydd y byddant wrth eu bodd yn ei gwneud.

Ond mae’r pandemig wedi taro pobl ifanc yn eithriadol o galed, gan effeithio ar eu haddysg, iechyd meddwl, bywyd cymdeithasol a chyfleoedd swyddi.

Felly, yn ystod Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd eleni, roeddem yn awyddus i glywed barn pobl ifanc yn uniongyrchol ynghylch camu mewn i’r byd gwaith yn y cyfnod ansicr hwn.

Fe wnaethom holi 1,000 o bobl ifanc 16-24 mlwydd oed o bob cwr o’r DU sydd wedi gadael yr ysgol neu goleg yn ddiweddar – gan ofyn iddynt beth, os unrhyw beth, allai ysgolion, colegau neu gyflogwyr ei wneud i roi hwb i’w hyder wrth iddynt ymgeisio am swyddi.

Darlun cymysg

Roedd bron tri chwarter o’r rhai a ymatebodd o’r farn bod COVID wedi gwneud pethau’n anoddach i bobl ifanc gael swydd (73.7%) – ond, er gwaethaf hyn, maent yn hyderus a llawn gobaith.

Dywed y mwyafrif eu bod yn teimlo’n:

  • hyderus y gallant gwblhau ffurflenni cais am swydd yn dda a chyflwyno’u hunain fel ymgeiswyr cryf (70.9%).
  • hyderus y gallant berfformio’n dda a chyflwyno’u hunain fel ymgeiswyr cryf mewn cyfweliadau (69.4%).
  • gobeithiol am eu rhagolygon gyrfa ar gyfer y dyfodol (64.8%).

Ond roedd chwarter o’r farn nad oedd yr ysgol a choleg wedi’u paratoi’n dda ar gyfer ymgeisio am swyddi a llwyddo i gael swydd (24.4%), ac roedd un ym mhob pump (21.4%) yn teimlo nad oeddent wedi rhoi’r sgiliau angenrheidiol iddynt ar gyfer ymgeisio am swyddi.

Pan holwyd pa weithgareddau yn yr ysgol neu goleg oedd wedi rhoi’r sgiliau mwyaf defnyddiol iddynt ar gyfer ymgeisio am swyddi, daeth gwirfoddoli i’r brig – gyda 93.55% o’r farn bod hynny wedi rhoi’r sgiliau mwyaf defnyddiol iddynt.

Yn 2020/21, rhoddodd pobl ifanc oedd yn gwneud eu DofE gyfanswm anhygoel o 1,862,627 awr o wirfoddoli – oedd bennaf yn ymwneud â chefnogi’r ymdrechion cymorth COVID – a gwyddom fod sawl deiliad y Wobr yn mynd ymlaen i weithio mewn swyddi sy’n gysylltiedig â’u gwaith gwirfoddoli DofE.

Dywedodd y bobl ifanc wrthym hefyd eu bod yn gwerthfawrogi:

  • gwersi wedi’u lleoli mewn ystafelloedd dosbarth yn ymwneud â chyflogaeth a gyrfaoedd (92.9%).
  • astudiaethau academaidd (91.6%), a
  • lleoliadau profiad gwaith (90.82%).

Barn ynghylch agwedd cyflogwyr

Mae hanner yr ymatebwyr o’r farn bod cyflogwyr yn barod i roi cynnig ar geisiadau gan bobl ifanc sydd wedi gadael ysgol / coleg yn ddiweddar – ond mae un ym mhob pedwar (25.5%) yn anghytuno.

Mae’n gadarnhaol bod 53.3% o’r farn bod ffurflenni cais yn caniatáu iddynt arddangos y sgiliau maent wedi’u datblygu y tu hwnt i’w gwaith ac astudiaethau academaidd – fel y DofE – ac mae 57.7% o’r farn bod cyflogwyr yn gweld cystal gwerth i sgiliau sydd wedi’u datblygu’r tu hwnt i waith ac astudiaethau academaidd, os gallant eu harddangos.

Ond mae 60.6% o’r farn bod ymgeiswyr yn fwy tebygol o gael swydd dda os ydyn nhw, neu eu rhieni neu ofalwyr yn adnabod rhywun sy’n gweithio yn y cwmni.

Yr hyn mae pobl ifanc yn awyddus i’w weld

Fe wnaethom holi pobl ifanc beth roeddent yn teimlo y gallai ysgolion / colegau a chyflogwyr ei wneud i’w cynorthwyo i fagu mwy o hyder wrth ymgeisio am swyddi.

Y prif bethau roeddent yn awyddus i weld ysgolion a cholegau yn eu gwneud oedd:

  • rhoi myfyrwyr mewn cysylltiad â mentoriaid megis gweithwyr ifanc neu gyn-fyfyrwyr i gael cyngor ar gyflogaeth a gyrfa ganddynt (49.3%).
  • cynnig addysg ar yrfaoedd a chyflogaeth, gan gynnwys cwblhau ffurflenni cais, ysgrifennu CV a sgiliau cyfweld (48.1%).
  • gweithio gyda chyflogwyr i ganfod lleoliadau profiad gwaith (45.9%).
  • canfod ffyrdd o ddatblygu sgiliau a gwybodaeth berthnasol mewn gwersi pwnc neu waith cwrs (41.7%).

Ac mae 37.8% o’r farn y dylai ysgolion neu golegau gynnig cyfleoedd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth – fel y DofE – i ddatblygu sgiliau megis gwaith tîm ac arweinyddiaeth.

Mae’r rhain yn ategu Youth Manifesto y DofE, lle mae pobl ifanc yn galw am addysg orfodol ar yrfaoedd, cynllunio ariannol a chyflogaeth mewn ysgolion, ac i gyflogwyr weithio gydag ysgolion a cholegau i greu mwy o gyfleoedd profiad gwaith a mentora.

Dywedodd y bobl ifanc wrthym hefyd eu bod yn awyddus i weld cyflogwyr sy’n:

  • caniatáu lle ar ffurflenni cais iddynt gael rhoi enghreifftiau o’r sgiliau maent wedi’u datblygu drwy weithgareddau allgyrsiol megis y DofE – yn hytrach na phrofiad gwaith yn unig – os ydynt yn cyfateb i’r swydd ddisgrifiadau (39.2%).
  • gweithio gydag ysgolion a cholegau i gynnig lleoliadau profiad gwaith (37.9%).
  • gweithio gydag ysgolion a cholegau i sgwrsio â myfyrwyr am eu ceisiadau a sgiliau cyfweld (37.5%).
  • a, rhoi pwysau cyfartal i sgiliau a ddatblygwyd drwy weithgareddau allgyrsiol fel y DofE wrth asesu ceisiadau – nid drwy brofiad gwaith yn unig (36.4%).

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.