news 6 Rhagfyr 2023

Ymgyrchydd amgylcheddol yn ei harddegau o’r Barri’n cael ei chydnabod yn nathliad cyntaf erioed Dyma Ieuenctid Gwobr Dug Caeredin am weithredu arloesol dros newid hinsawdd

Mae menyw ifanc sy’n ymgyrchu dros yr amgylchedd yn y Barri wedi cael ei chyhoeddi fel Amddiffynnwr y Blaned y Flwyddyn yn nathliad cyntaf erioed Dyma Ieuenctid Gwobr Dug Caeredin (DofE).

Mae deiliad Gwobr Aur DofE a myfyriwr Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Lila Nunn, 17 oed, wedi ymgyrchu’n ddiflino dros yr amgylchedd yn genedlaethol ac yn ei chymuned ers 2017, ac yn fwyaf diweddar, drwy ei DofE. I ddathlu’r effaith anhygoel y mae wedi’i chael, cafodd Lila ei hanrhydeddu gan Gadeirydd Ymddiriedolwyr DofE, Tanni, y Farwnes Grey-Thompson DBE, DL, a’r Prif Swyddog Gweithredol Ruth Marvel mewn dathliad elusen DofE yn Amgueddfa Bost Llundain ddydd Mercher (29 Tachwedd).

Mae Dyma Ieuenctid 2023 yn cydnabod ac yn dathlu’r straeon anhygoel y tu ôl i Wobr Dug Caeredin (DofE). Mae’n arddangos pobl ifanc a’r oedolion sy’n eu cefnogi i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau: goresgyn heriau heddiw a gwneud eu marc ar y byd, yn eu ffordd fach eu hunain. Mae pob taith Gwobr Dug Caeredin yn unigryw – a bydd pob un yn gwneud gwahaniaeth.

Mae Lila wedi hyrwyddo eco-atebion yn ei chymuned ar gyfer ei hadran Gwirfoddoli DofE – gan gynnwys gwaith cadwraeth gyda Gr?p Cadwraeth Barry Birchgrove, disodli peiriant gwerthu cynhyrchion untro yn ei hysgol gyda man ail-lenwi poteli d?r, a chyflwyno diwrnod llysieuol yn y ffreutur. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Lila wedi atal miloedd o boteli plastig rhag cael eu defnyddio gan fyfyrwyr.
Mae Lila hefyd yn aelod o Fwrdd Ieuenctid Cadwch Gymru’n Daclus ac mae’n Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid i Gymru. Mae hi wedi bod yn allweddol mewn deiseb genedlaethol yn galw ar lywodraeth y DU i gydnabod ffoaduriaid hinsawdd.

Dywedodd Lila Nunn, Amddiffynnwr y Blaned y Flwyddyn: “O ystyried y gwaith rydw i wedi’i wneud a’i ddylanwad ar newid yn yr hinsawdd, rydw i wedi sylweddoli bod angen i weithredu dros newid hinsawdd fod yn fudiad lle mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni nod cyffredin. Felly, un peth y byddwn i’n ei ddweud wrth bobl ifanc eraill yw cymerwch ran mewn unrhyw ffordd y gallwch chi. Mae fy ngwaith fel Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid i Gymru, ynghyd â thaith gadwraeth i Indonesia, a oedd yn agoriad llygad, wedi cadarnhau fy nghred y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr. Mae gwir angen i ni weithio gyda’n gilydd a gweithredu.”

Derbyniodd yr elusen gannoedd o enwebiadau Dyma Ieuenctid o bob cwr o’r DU mewn wyth categori, gyda’r enillwyr terfynol yn cael eu dewis gan baneli a oedd yn cynnwys Llysgenhadon Ieuenctid DofE a chefnogwyr enwog. Talodd y beirniaid deyrnged hefyd i 12 o ymgeiswyr eraill am eu llwyddiannau eithriadol.

Dywedodd Ruth Marvel, Prif Swyddog Gweithredol Gwobr Dug Caeredin: “Ein henillwyr Dyma Ieuenctid cyntaf erioed – ac mae’r enwebiadau gwych a gawsom o bob cwr o’r DU – wedi ein syfrdanu’n llwyr. Mae pob un ohonynt wedi cael effaith anhygoel ar eu cymuned, ac rydym ni mor falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni drwy eu Gwobr Dug Caeredin.

“Mae’r posibiliadau gyda DofE yn ddi-ddiwedd – gan alluogi pobl ifanc i ddilyn eu diddordebau, dysgu sgiliau newydd, magu hyder a gwneud gwahaniaeth – ac mae’r bobl ifanc a’r gwirfoddolwyr anhygoel hyn wir wedi dangos hynny.”

Dywedodd Alan Titchmarsh MBE DL, a oedd yn beirniadu categori Amddiffynnwr y Blaned y Flwyddyn: “Mae agwedd gadarnhaol Lila tuag at wella ei hamgylchedd lleol ac ethos cyffredinol ei hysgol yn hynod o drawiadol. Mae hi wedi teithio dramor i wella ei dealltwriaeth o effeithiau cyffredinol newid hinsawdd ac mae hi’n gwybod am fanteision niferus plannu coed yn nes at adref. Mae’r ffaith ei bod wedi cael effaith mor gadarnhaol ar ei chyfoedion, yn ogystal ag ar y dirwedd, yn pwysleisio ei galluoedd, ei hymrwymiad a’i phenderfynoldeb i wneud gwahaniaeth i’n bywydau ac i gynaliadwyedd bywyd gwyllt yn gyffredinol.”

Mae Gwobr Dug Caeredin yn agored i unrhyw unigolyn ifanc rhwng 14 a 24 oed, ac mae’n galluogi cyfranogwyr i adeiladu eu rhaglenni eu hunain, dewis gweithgareddau ac achos i wirfoddoli ar ei gyfer. Mae Gwobr Dug Caeredin yn gweithio i ehangu mynediad a chwalu rhwystrau i gyfranogiad fel bod pob unigolyn ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan – gan gynnwys cyrraedd mwy o fudiadau cymunedol ac ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig, ehangu mewn carchardai a chefnogi mwy o bobl ifanc ag anghenion ychwanegol i gymryd rhan.

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.