Ein Cynnig Cymraeg / Our Welsh Offer

Mae’n bleser gennym rannu’r newyddion bod DofE Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg am ein hymrwymiad at gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg.

Mae cymryd rhan mewn Gwobr Dug Caeredin yn annog pobl ifanc i herio’u hunain ac i feithrin hunangred a hunan hyder. Rydym yn benderfynol o gefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ifanc i fanteisio ar y cyfleoedd hyn trwy gynnig gwasanaethau Cymraeg ar eu cyfer nhw, yn ogystal ag ar gyfer yr holl bobl sy’n eu cefnogi – yn rhieni a gofalwyr, Arweinwyr, a chanolfannau DofE.

Fel rhan o’n Cynnig Cymraeg, byddwn yn:

  • Darparu adnoddau yn y Gymraeg i gefnogi pobl ifanc
  • Cynnal sesiynau gwybodaeth rhithiol yn y Gymraeg i rieni a gofalwyr
  • Cefnogi Arweinwyr a chanolfannau i redeg DofE trwy ddarparu deunydd marchnata, adnoddau a sesiynau rhithiol trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cynnig hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i Arweinwyr
  • Annog siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i fanteisio ar gyfleoedd arweinyddiaeth fel rhaglen Llysgenhadon Ifanc DofE Cymru
  • Codi proffil ein gwasanaethau Cymraeg trwy ein gwaith cyfathrebu a’n platfformau digidol, fel bod mwy o bobl yn ymwybodol ohonynt ac yn eu defnyddio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu sylwadau am ein gwasanaethau Cymraeg plîs cysylltwch â [email protected].

 

We are delighted to share the news that DofE Wales has received the Cynnig Cymraeg (Welsh offer) recognition from the Welsh Language Commissioner for our commitment to offering Welsh language services.

Taking part in a Duke of Edinburgh’s Award encourages young people to challenge themselves and develop self-confidence and self-belief. We are determined to support young Welsh speakers and learners to take advantage of these opportunities by  providing Welsh language services for them, and  all the people who support them – including parents and carers, Leaders and DofE centres.

As part of our Cynnig Cymraeg, we commit to:

  • Providing Welsh language resources to support young people
  • Running virtual information sessions in Welsh for parents and carers
  • Supporting Leaders and centres to deliver DofE by providing marketing materials, resources, and virtual sessions in Welsh
  • Offering Welsh-medium training for Leaders
  • Encouraging more Welsh speakers and learners to to take part in leadership opportunities such as the DofE Cymru Youth Ambassadors programme
  • Raising th profile of our Welsh language services through our communications work and digital platforms, so that more people are aware of and use these services.

If you have any questions, suggestions or comments about our Welsh language services please contact [email protected].

 

 

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.