news 10.05.2023

Mae mwy o bobl ifanc nag erioed wedi dechrau eu Gwobr Dug Caeredin yn 2022/23 – gyda hanner miliwn yn cymryd rhan weithredol a mwy o ysgolion, sefydliadau cymunedol a charchardai yn cynnal y DofE

Mae mwy na 323,000 o bobl ifanc wedi dechrau eu Gwobr Dug Caeredin (DofE) yn 2022/23, yn ôl ystadegau blynyddol yr elusen – gyda chyfranogwyr wedi cwblhau 3.5 miliwn awr o wirfoddoli yn eu cymunedau ledled y DU.

Mae’r niferodd uchaf erioed, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos fod 537,759 o bobl ifanc yn gweithio tuag at eu Gwobr ledled y DU ar hyn o bryd – cynnydd o 10% ers 2021/22.

Mae’r ffigyrau’n nodi diwedd ail flwyddyn strategaeth bum mlynedd uchelgeisiol y DofE i gyrraedd miliwn o bobl ifanc erbyn 2026 – gan ganolbwyntio ar chwalu rhwystrau i bobl ifanc ar yr ymylon a chyrraedd mwy o ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig, sefydliadau cymunedol, colegau addysg bellach, sefydliadau’n cynorthwyo pobl ifanc gydag anghenion ychwanegol, a charchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc.

Mae’r ystadegau blynyddol yn dangos bod:

  • Cyfranogwyr wedi cwblhau 3,541,707 awr o wirfoddoli yn eu cymunedau – cynnydd o 64 y cant ers y llynedd a chyfwerth â £17,035,611 mewn cyflog gweithwyr.
  • Dechreuodd 29.9 y cant o holl blant 14 oed y DU ar raglen DofE Efydd.
  • Mae 262 o ysgolion uwchradd yn cynnig DofE am y tro cyntaf, gan gynnwys 98 yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Lloegr.*
  • Dechreuodd 19 o leoliadau diogel gynnal y DofE, gan gynnwys carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc, unedau diogel, timau troseddwyr ifanc a thimau ymyriadau ieuenctid – gyda chyfanswm o 79 yn ei gynnig erbyn hyn.
  • Cynigwyd DofE am y tro cyntaf mewn 72 o sefydliadau cymunedol, 15 coleg addysg bellach, 126 o ganolfannau i bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol a 36 o ganolfannau darpariaeth amgen, yn cynorthwyo myfyrwyr sy’n methu mynychu ysgol brif ffrwd.

Dywedodd Ruth Marvel, Prif Weithredwr Gwobr Dug Caeredin: “Mae’r nifer o bobl ifanc yn manteisio ar y DofE yn uwch nag erioed – sy’n dangos gwerth cyfleoedd fel hyn. Wrth iddynt weld eu hunain yn sownd rhwng y blynyddoedd milain diweddar a dyfodol ansicr, mae cyfleoedd i ddatblygu a thyfu tu allan i’r ystafell ddosbarth yn hanfodol i helpu cael mwy o degwch a rhoi’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y dyfodol.

“Mae pobl ifanc angen ein cymorth fwy nag erioed os ydynt am gael yr un cyfleoedd â’r cenedlaethau blaenorol – a dyna pam ein bod yn benderfynol o ddal ati i chwalu rhwystrau rhag gallu cymryd rhan a chyrraedd cymaint o bobl ifanc â phosibl.”

Chwalu’r rhwystrau

Wrth i bobl ifanc lywio effeithiau’r pandemig, ynghyd ag argyfwng iechyd meddwl a chostau byw, mae hawl i gyfleoedd datblygu’n bersonol yn gallu eu helpu i ddod o hyd i dalentau a brwdfrydedd newydd, i adeiladu eu gwytnwch a hunan gred a rhoi’r sgiliau hanfodol mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi – megis gwaith tîm, datrys problemau ac arwain.

Mae’r DofE yn gweithio i sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan – yn enwedig y rhai all wynebu rhwystrau, megis pobl ifanc sy’n byw mewn tlodi neu sydd ag anghenion ychwanegol.

Ers 2021, mae’r elusen wedi:

  • Dechrau gwaith yn cynorthwyo mwy o ysgolion yn Lloegr i ddechrau cynnal y DofE – gan gynnig arian grant a chymorth wedi ei deilwra, gyda chymorth yr Adran Addysg a’r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.**
  • Ymestyn y ddarpariaeth i garchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.
  • Dechrau prosiect uchelgeisiol i gynorthwyo mwy o sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i gynnal y DofE drwy gynnig arian grant, hyfforddiant a chymorth wedi ei deilwra, diolch i arian gan Ymddiriedolaeth Julia and Hans Rausing***
  • Lansio prosiect y DU gyfan o gynorthwyo mwy o bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol i gyflawni eu DofE.

Yn ystod y flwyddyn hon, bydd Gwobr Dug Caeredin yn ehangu i fwy o ysgolion, sefydliadau cymunedol, carchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc, yn cyrraedd mwy o bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol, a datblygu cynllun gweithredu i ddeall a chael gwared ar ffactorau sy’n rhwystro pobl ifanc ar yr ymylon rhag cymryd rhan.

Stori: Aspire 2 Inspire

Dechreuodd Aspire 2 Inspire Communities yn Rochdale gynnal Gwobr Dug Caeredin yn 2022, diolch i grant gan gronfa Access Without Limits y DofE, gyda chymorth Ymddiriedolaeth Julia and Hans Rausing.

Mae Aspire 2 Inspire yn sefydliad cymunedol sydd â’r nod o rymuso, addysgu ac annog pobl ifanc i chwalu rhwystrau a chyflawni cerrig milltir. Mae’n cynorthwyo ei gymdogaeth leol gyda mentrau yn cynnwys gweithdai, clybiau plant a banc bwyd, ac yn gweithio gyda phobl ifanc o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, cymunedau newydd, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, teuluoedd sy’n wynebu caledi ariannol a phobl ifanc gydag anghenion ychwanegol, anableddau ac anawsterau ieithyddol.

Lansiodd Kalsoom Khanum Aspire 2 Inspire yn 2019. Dywedodd: “Pan holwyd ni am DofE meddyliais: ‘Gant y cant, rwyf eisiau ei wneud yn Aspire.’ Mae’n freuddwyd. Nid dim ond rhoi cyfle i blant gael sgiliau newydd ydyn ni – maent yn cael rhywbeth achrededig. Bydd ganddynt rywbeth i’w ddangos.

“Rydym yn darparu’r adrannau Corfforol, Sgiliau a Gwirfoddoli yn fewnol. Yr wythnos ddiwethaf cafwyd y dasg Gorfforol gyntaf a dim ond un o’r 16 merch oedd wedi gwneud bocsio neu hunan-amddiffyn o’r blaen. Felly, i mi, roedd hynny’n bwerus oherwydd rydym yn rhoi gymaint o gyfleoedd iddyn nhw. Nid yw ynghl?n â’r ochr Gorfforol yn unig – un o’r pethau yr ydym yn gobeithio ei ddarparu’n fewnol yw adeiladu hyder, ysgrifennu CV, technegau cyfweliad a siarad a thrafod. Rwy’n gobeithio y bydd DofE yn helpu ein pobl ifanc gyda phopeth mewn bywyd.”

Mae Habeeba, 18, yn gweithio tuag at ei Gwobr Dug Caeredin Aur ac yn cynorthwyo cyfranogwyr iau yn Aspire 2 Inspire. Dywedodd: “Rwy’n helpu fel Arweinydd DofE gyda chyfranogwyr Efydd, yn egluro fy mhrofiad, helpu nhw i ddeall sut i baratoi eu hunain yn well a’u cynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallaf. Credaf ei bod yn eithriadol o bwysig, fel dynes ifanc sy’n Fwslim, i bobl fy nghymuned ddeall nad yw DofE ar gyfer pobl o ddiwylliannau eraill yn unig, y gallwn ni gymryd rhan hefyd.

“Mae’n cynnwys mwy na gwersylla yn unig – mae’n ymwneud â gwirfoddoli, gwneud pethau corfforol a dysgu sgiliau newydd sydd, yn fy marn i, yn gyfle gwych i bobl ifanc gamu oddi wrth waith ysgol a gwella eu sgiliau bywyd. Mae Prifysgol a hyd yn oed cyflogwyr yn chwilio am y math yma o beth, felly mae DofE yn gyfle gwych i osod pethau ar gyfer bywyd yn y dyfodol.”

I gyflawni eu DofE, mae pobl ifanc 14-24 oed yn dewis eu gweithgareddau eu hunain i gwblhau adrannau Corfforol, Sgiliau a Gwirfoddoli, ac Alldaith a Gwersylla Dros Nos ar y lefel Aur. Maent yn cael hwyl, yn darganfod diddordebau newydd, yn rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau, yn magu gwydnwch a hunan-gred, ac yn datblygu sgiliau hanfodol mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi – wrth weithio tuag at Wobr sy’n cael ei chydnabod a’i pharchu’n eang.

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.