news 09 Tachwedd 2022

Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn ymuno â myfyrwyr ar draws De Ddwyrain Cymru am ddiwrnod her Gwobr Dug Caeredin yng Nghwmbrân

Bu i fwy na 50 o bobl ifanc o ysgolion a cholegau addysg bellach ar draws De Ddwyrain Cymru roi cynnig ar gymorth cyntaf, adeiladu tîm ac ymgyrchu yn ystod diwrnod her gwobr Dug Caeredin yng Ngholeg Gwent yng Nghwmbrân heddiw – yng nghwmni deiliad Gwobr Aur ac Ymddiriedolwr DofE, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.

Bu i’r Iarll gwrdd â phobl ifanc o bedwar coleg addysg bellach a dwy ysgol ym Mharth Dysgu Torfaen Coleg Gwent, ble cymerwyd rhan mewn cyfres o heriau cyflym, gweithio mewn timau i fynd i’r afael ag ystod o weithgareddau oedd yn adlewyrchu’r pedair adran DofE – Corfforol, Sgiliau, Alldaith a Gwirfoddoli.

Cymerodd y mynychwyr – cymysgedd o gyfranogwyr DofE a phobl ifanc sy’n awyddus i ddysgu mwy ynghylch Gwobr Dug Caeredin – ran mewn heriau adeiladu tîm, dysgwyd sgiliau cymorth cyntaf a sut i godi pabell a phacio offer, a chrëwyd ymgyrchoedd bychan yn seiliedig ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae pobl ifanc ar draws Cymru wedi eu heffeithio’n sylweddol gan heriau’r blynyddoedd diwethaf – gan lywio pwysau’r cyfnod clo, colli addysg a’r lefelau uchaf o broblemau iechyd meddwl, ynghyd â chynnydd mewn tlodi ac argyfwng costau byw parhaus.

Mae DofE Cymru yn gweithio i gynyddu mynediad at Wobr Dug Caeredin i bobl ifanc mewn addysg bellach a darpariaeth ôl 16 – ar adeg pan mae angen cyfleoedd hygyrch fel hyn yn fwy nag erioed.

Cyfleoedd a all newid bywyd

Mae DofE yn agored i bob person ifanc 14-24 oed, gan gynnig cyfle i ddarganfod brwdfrydedd a thalentau newydd, ennill sgiliau ymarferol megis datrys problemau a gwaith tîm, a magu hyder a gwytnwch – wrth weithio tuag at Wobr gydnabyddedig sy’n cael ei pharchu. Mae pobl ifanc yn dewis eu gweithgareddau eu hunain ac yn gosod eu nodau eu hunain – sy’n golygu bod DofE yn gallu ffitio o amgylch ymrwymiadau megis cyfrifoldebau gofal, astudio, gweithio a bywyd cymdeithasol.

Nod Gwobr Dug Caeredin yw cyrraedd miliwn o bobl ifanc ar draws y DU erbyn 2026 – gan ganolbwyntio’n arbennig ar y rhai sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan, megis pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig neu gymunedau ar y cyrion.

Dywedodd Rebecca Kennelly, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau’r DU, DofE: “Roedd yn wych gweld pobl ifanc o gymunedau ar draws De Ddwyrain Cymru yn dod ynghyd heddiw, ac arddangos y pethau gorau am DofE – y cyfle i fwynhau, cwrdd â phobl newydd, herio eich hun a meithrin sgiliau i’ch cynorthwyo i lwyddo, waeth beth a wnewch.

“Fel Ymddiriedolwr DofE, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, yn frwd ynghylch rhoi cyfle i fwy o bobl ifanc sydd mewn addysg ôl 16 gyflawni eu DofE – felly rydym wrth ein bodd ei fod wedi gallu ymuno â ni heddiw, gan gwrdd ag Arweinwyr DofE a diolch iddynt, a chlywed gan y bobl ifanc eu hunain ynghylch effaith DofE arnyn nhw.”

Dywedodd Guy Lacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gwent: “Mae wedi bod yn bleser cynnal y digwyddiad Gwobr Dug Caeredin addawol hwn ym Mharth Dysgu Torfaen heddiw. Ynn Ngholeg Gwent, rydym yn falch o gefnogi DofE i gynorthwyo ein pobl ifanc lwyddo a ffynnu fel aelodau o’n cymuned. Felly heddiw, croesawyd ein dysgwyr o ysgolion a cholegau yn Ne Ddwyrain Cymru i ymuno â ni mewn diwrnod o weithgareddau cynhwysol, sy’n arddangos y cyfleoedd gwerthfawr sydd gan y cynllun i’w cynnig i bobl ifanc.

“Roedd y digwyddiad hyd yn oed yn fwy cofiadwy oherwydd ymweliad arbennig Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, fel Ymddiriedolwr DofE. Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych ac ysbrydoledig i ddysgwyr, gan arddangos gwerth y sgiliau gydol oes maent yn eu datblygu drwy DofE, ac rydym wedi mwynhau’r digwyddiad yn arw.”

Mynychodd myfyrwyr o Goleg Gwent, Coleg y Cymoedd, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Merthyr Tudful, Ysgol Abersychan ac Ysgol Crownbridge y digwyddiad.

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.