Skip to content

Meet our 2026-27 DofE Cymru Youth Ambassadors

The DofE Cymru Youth Ambassadors play a vital role in shaping, championing, and representing the DofE throughout Wales. Whether sharing their DofE journey at events, or engaging with campaigns, the group serve as role models inspiring others and demonstrating the impact of the DofE Award. With a passion and commitment to making a difference, our Youth Ambassadors are driving positive change and leaving a lasting impact on the DofE and beyond!

 

Applications are currently closed for the DofE Cymru Youth Ambassador Programme, but we expect to begin the next recruitment in early 2027. If you would like to be notified when applications reopen, please register your interest.


Dewch i gyfarfod â Llysgenhadon Ieuenctid DofE Cymru 2026-27! 

Mae gan Lysgenhadon Ieuenctid DofE Cymru rôl hollbwysig o ran siapio, hyrwyddo a chynrychioli DofE trwy Gymru. Pa un a fyddant yn rhannu eu siwrnai DofE mewn digwyddiadau neu’n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd, mae aelodau’r gr?p yn fodelau rôl sy’n ysbrydoli eraill ac yn dangos effaith y Wobr DofE. Gydag angerdd ac ymrwymiad i wneud gwahaniaeth, mae ein Llysgenhadon Ieuenctid yn ysgogi newid cadarnhaol ac yn gadael effaith barhaol ar DofE a thu hwnt.

 

Ni ellir anfon ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer Rhaglen Llysgenhadon Ieuenctid DofE Cymru, ond y disgwyl yw y bydd y rownd recriwtio nesaf yn dechrau yn gynnar yn 2027. Os hoffech gael gwybod pryd yn union fydd y ceisiadau’n ailagor, nodwch eich manylion ar y ffurflen – https://forms.office.com/e/pLhBSdhysU

Caroline

Introduced to DofE through Girlguiding, Caroline went on to complete all three levels of her Award, enjoying a wide range of activities from skiing with a disability group to narrow boating along a canal. She describes her Gold expedition as both her biggest challenge and her proudest achievement. Having experienced first-hand the confidence, friendships and sense of achievement that DofE can bring, Caroline is passionate about encouraging other young people with additional needs to get involved, try new things and make the most of the opportunities available to them.


A hithau wedi’i chyflwyno i DofE drwy Girlguiding, aeth ymlaen i gwblhau pob un o’r tair lefel o’i Gwobr, gan fwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau, o sgïo gyda grŵp anabl i fynd ar gwch ar hyd camlas. Disgrifiodd ei halldaith Aur fel ei her fwyaf a’r llwyddiant mae’n fwyaf balch ohono. Wedi iddi brofi drosti hi ei hun yr hyder, y cyfeillgarwch a’r ymdeimlad o gyflawni y gall DofE ei ddod, mae Caroline yn angerddol dros annog pobl ifanc eraill gydag anghenion ychwanegol i gymryd rhan, rhoi cynnig ar bethau newydd a gwneud y gorau o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Iestyn

Iestyn first heard about DofE through Scouts before getting involved at school, where he quickly realised it was the perfect mix of everything he enjoys, from sport and music to getting outdoors with friends. Since completing his Bronze Award and starting Silver, he’s built confidence, teamwork and organisation skills. With a passion for the environment and the outdoors, Iestyn is keen to turn these interests into something bigger in the future. As a Youth Ambassador, he’s focused on making DofE more accessible and encouraging more young people to give it a go.


Clywodd Iestyn am DofE gyntaf drwy’r Sgowtiaid cyn dechrau cymryd rhan yn yr ysgol, lle sylweddolodd yn sydyn ei fod yn cynnig y cyfuniad perffaith o bopeth mae’n ei fwynhau, o chwaraeon a cherddoriaeth i fod yn yr awyr agored gyda ffrindiau. Ers iddo gwblhau ei Wobr Efydd a dechrau ar yr Arian, mae wedi meithrin hyder, gwaith tîm a sgiliau trefnu. Ac yntau’n frwd dros yr amgylchedd a’r awyr agored, mae Iestyn yn awyddus i droi’r diddordebau hyn yn rhywbeth mwy yn y dyfodol. Fel Llysgennad i’r Ifanc, mae’n canolbwyntio ar wneud DofE yn fwy hygyrch ac yn annog mwy o bobl ifanc i roi cynnig arno.

Mario

Mario discovered DofE through the RAF Air Cadets and went on to complete his Bronze, Silver and Gold Awards. One of his proudest achievements was completing his Residential and earning a First Aid Instructor qualification, which allows him to support and teach younger cadets. One of the biggest lessons he has taken from the Award is to never give up, even when plans change or challenges arise – a mindset that continues to shape his approach both within the RAF Air Cadets and beyond.


Darganfu Mario’r DofE drwy Gadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol ac aeth ymlaen i gwblhau ei Wobr Efydd, Arian ac Aur. Un o’i lwyddiannau pennaf oedd cwblhau ei Breswyliad gan ennill cymhwyster Hyfforddwr Cymorth Cyntaf, sy’n ei alluogi i gefnogi a dysgu cadetiaid ieuengach. Un o’r gwersi mwyaf a ddysgodd drwy’r Wobr oedd peidio byth â rhoi’r gorau iddi, hyd yn oed pan mae cynlluniau’n newid neu pan mae heriau’n codi – ffordd o feddwl sy’n parhau i lunio ei ddull a hynny o fewn Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol a thu hwnt.

Jasswan

Jasswan completed his Bronze DofE Award through school, initially signing up alongside his friends. Through activities such as tennis, playing the piano and volunteering in his school library, he developed new skills and confidence. His DofE experience became a turning point, encouraging him to push beyond his comfort zone, challenge himself in new ways and develop greater resilience. Jasswan hopes to encourage other young people, particularly those who are shy or lack confidence, to step outside their comfort zones, embrace new opportunities and realise they are capable of more than they think.


Cwblhaodd Jasswan ei Wobr DofE Efydd drwy’r ysgol, gan gofrestru yn y lle cyntaf ochr yn ochr â’i ffrindiau. Drwy weithgareddau megis tenis, chwarae’r piano a gwirfoddoli yn y llyfrgell ysgol, datblygodd sgiliau newydd a hyder. Daeth ei brofiad DofE yn drobwynt, gan ei annog i wthio y tu hwnt i’r hyn oedd yn gyfforddus ag o, a herio ei hun mewn ffyrdd newydd a datblygu mwy o wytnwch. Mae Jasswan yn gobeithio annog pobl ifanc eraill, yn arbennig rhai sy’n swil neu sydd heb hyder, i gamu y tu allan i’r hyn maent yn gyfforddus ag o, rhoi cynnig ar gyfleoedd newydd a sylweddoli eu bod yn gallu gwneud llawer mwy na’r hyn a feddylient.

Liam H

Liam H describes his DofE experience as challenging but incredibly rewarding. He has completed his Bronze and Silver Awards and is currently working towards Gold through his local Open Award Centre. Throughout his DofE journey, Liam has embraced opportunities to challenge himself and try new things, from developing his cooking skills to taking up crossbow shooting. As a DofE Young Leader, Liam supports other participants at his centre, sharing his knowledge and helping them make the most of their DofE journey.


Mae Liam H yn disgrifio ei brofiad DofE fel un heriol ond un hynod o werth chweil. Mae wedi cwblhau ei Wobrau Efydd ac Aur ac ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at yr Aur drwy ei Ganolfan Gwobr Agored. Drwy gydol ei daith DofE, mae Liam wedi croesawu’r cyfle i herio ei hun a rhoi cynnig ar bethau newydd, o ddatblygu ei sgiliau coginio i ddechrau meistroli saethu gyda bwa croes. Fel Arweinydd Ifanc DofE, mae Liam yn cefnogi cyfranogwyr eraill yn ei ganolfan, gan rannu ei wybodaeth a’u helpu i wneud y gorau o’u taith DofE.

Liam S

Liam S got involved in DofE through the Army Cadets, where he saw it as a great way to gain a qualification for the activities he already enjoys. After completing his Bronze Award and starting Silver, he has made the most of the programme, from developing his cooking skills to giving back through volunteering with the Salvation Army. His favourite part of DofE has been the expedition section, where he’s enjoyed working as a team, overcoming challenges, and taking in the incredible views along the Gower coastline. As a Youth Ambassador, Liam is proud of what he’s achieved and is keen to help others discover DofE and get involved.


Daeth Liam S i gymryd rhan yn DofE drwy Gadetiaid y Fyddin, lle’i gwelodd yn ffordd wych o ennill cymhwyster am y gweithgareddau roedd eisoes yn eu mwynhau. Wedi iddo gwblhau ei Wobr Efydd a dechrau ar yr Arian, mae wedi gwneud y gorau o’r rhaglen, o ddatblygu ei sgiliau coginio i roi ei amser yn gwirfoddoli gyda Byddin yr Iachawdwriaeth. Y rhan orau o’r DofE iddo ef yw’r adran alltaith, lle mae wedi mwynhau gweithio fel tîm, goresgyn heriau a chael mwynhau’r golygfeydd anhygoel ar hyd arfordir Gŵyr. Fel Llysgennad Ifanc, mae Liam yn falch o’r hyn mae wedi’i gyflawni ac mae’n awyddus i helpu eraill ddarganfod DofE a chymryd rhan.

Victoria

Victoria first discovered DofE through Air Cadets before continuing her journey through school. Having completed her Bronze and Silver Awards, she has taken on everything from long-distance road marching to volunteering in her school library. For Victoria, DofE has always given her something to work towards outside of school, filling her spare time with new activities and challenges. As a DofE Cymru Youth Ambassador, Victoria is passionate about encouraging more young people to stay involved beyond Bronze, helping them build friendships and take on new challenges.


Fe wnaeth Victoria ddarganfod DofE am y tro cyntaf drwy’r Cadetiaid Awyr cyn parhau gyda’i thaith drwy’r ysgol. Wedi iddi gwblhau ei Gwobrau Efydd ac Aur, mae wedi rhoi cynnig ar bopeth o orymdeithio ffordd pellter mawr i wirfoddoli yn ei llyfrgell ysgol. I Victoria, mae DofE bob amser wedi rhoi rhywbeth iddi weithio tuag ato oddi allan i’r ysgol, gan lenwi ei hamser rhydd gyda gweithgareddau a heriau newydd. Fel Llysgennad yr Ifanc DofE Cymru, mae Victoria’n angerddol dros annog mwy o bobl i barhau i gymryd rhan y tu hwnt i’r Wobr Efydd, gan eu helpu i wneud ffrindiau ac ymgymryd â heriau newydd.

Taryn

Taryn has completed her Bronze, Silver and has almost finished her Gold through Girlguiding. From running and cooking to litter picking in her local community, Taryn has embraced opportunities to challenge herself and make a positive difference. Known by her Leaders as the “cheerleader” of the group, she loves encouraging others and keeping team spirits high during challenging moments. After gaining valuable experience through her DofE volunteering and securing a job as a result, she is passionate about showing other young people how the Award can open doors, build confidence and create opportunities for the future.


Mae Taryn wedi cwblhau ei Gwobrau Efydd, Arian ac Aur drwy Girlguiding. O redeg a choginio i gasglu sbwriel yn ei chymuned leol, mae Taryn wedi croesawu cyfleoedd i herio ei hun a gwneud gwahaniaeth positif. A hithau’n cael ei hadnabod gan ei Harweinwyr fel codwr hwyl y grŵp, mae wrth ei bodd yn annog eraill a chadw ysbryd y tîm yn ystod adegau heriol. Wedi iddi ennill profiad gwerthfawr drwy ei gwirfoddoli DofE a sicrhau swydd o ganlyniad i hynny, mae’n frwd iawn dros ddangos i bobl ifanc sut mae’r Wobr yn gallu agor drysau, adeiladu hyder a chreu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Jasper

 

Jasper has completed his Bronze, Silver and Gold Awards through the RAF Air Cadets. What started as a fun activity quickly became a passion, with the expeditions and residential becoming the highlight of his DofE journey. From developing his map-reading skills and volunteering with younger cadets, Jasper has embraced every challenge along the way. DofE helped him discover a love for the outdoors and Jasper hopes to work towards his qualifications that will allow him to lead and assess expeditions himself.


Mae Jasper wedi cwblhau ei Wobrau Efydd, Arian ac Aur drwy Gadetiaid y Llu Awyr Brenhinol. Yn gyflym iawn, daeth yr hyn a ddechreuodd fel gweithgaredd hwyl yn rhywbeth roedd yn teimlo’n angerddol drosto, gydag alldeithiau a chyrsiau preswyl yn dod yn uchafbwynt ei daith DofE. O ddatblygu ei sgiliau darllen mapiau a gwirfoddoli gyda chadetiaid ieuengach, mae Jasper wedi mynd i’r afael â phob her ar hyd y ffordd. Fe wnaeth DofE ei helpu i ddarganfod ei hoffter o’r awyr agored ac mae Jasper yn gobeithio gweithio tuag at ei gymwysterau fydd yn ei alluogi i arwain ac asesu allteithiau ei hun.

Sophia

Sophia discovered her passion for DofE after first taking part at school and continuing her journey through the RAF Air Cadets. Having completed her Bronze Award and now working towards Gold, she has embraced the challenge, doing activities like running, cooking and volunteering in a charity shop, while pushing herself through expeditions in all conditions. Passionate about helping others succeed, she is driven to share her experiences and show how DofE can build confidence, life skills and new opportunities for the future.


Darganfu Sophia ei hangerdd dros DofE wedi iddi gymryd rhan am y tro cyntaf yn yr ysgol a pharhau gyda’i thaith drwy Gadetiaid y Llu Awyr Brenhinol. Wedi iddi gwblhau ei Gwobr Efydd a’i bod nawr yn gweithio tuag at ei Gwobr Aur, mae wedi ymgymryd â’r her, gan wneud gweithgareddau fel rhedeg, coginio a gwirfoddoli mewn siop elusen, wrth yrru ei hun ymlaen drwy allteithiau mewn bob amgylchiad. A hithau’n frwd dros helpu eraill i lwyddo, mae’n cael ei gyrru i rannu ei phrofiadau a dangos sut y gall DofE adeiladu hyder, sgiliau bywyd a chyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol.

Logan

Logan completed his Silver DofE through the Army Cadet Force, where he developed strong leadership and advanced first aid skills. Now serving as a Sergeant Major, he is passionate about helping others access the same opportunities and experiences that DofE has given him.

His favourite part of DofE was the expedition section, where he enjoyed working as a team, boosting morale, and creating lasting memories, including leading his group to a hidden waterfall. Through DofE, Logan built resilience, confidence, and leadership skills, and is now committed to inspiring other young people to discover what they can achieve.


Cwblhaodd Logan ei DofE Arian drwy Gadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, lle datblygodd sgiliau arweinyddiaeth ac uwch sgiliau cymorth cyntaf cryf. Mae nawr yn gwasanaethu fel Rhingyll, mae’n angerddol dros helpu eraill gael mynediad at yr un cyfleoedd a’r profiadau mae DofE wedi’i roi iddo ef.

Ei hoff ran o’r DofE oedd yr adran alltaith, lle gwnaeth fwynhau gweithio fel tîm, rhoi hwb i forâl, a chreu atgofion am byth, gan gynnwys arwain ei grŵp at raeadr gudd. Drwy DofE, fe wnaeth Logan feithrin cydnerthedd, hyder, a sgiliau arweinyddiaeth, ac mae nawr wedi ymrwymo i ysbrydoli pobl ifanc eraill i ddarganfod yr hyn allant ei gyflawni.

Peyton

Peyton completed her Bronze, Silver and Gold Awards in the Youth Service and is now working towards Gold. Peyton has embraced every part of the experience, from dancing to volunteering at her local cinema. She is also a Community Champion, recognised for the significant contribution she makes through volunteering and supporting her local community whenever she can. DofE has allowed Peyton to explore her interests, giving her a better idea of the path to take before progressing with her education. Through DofE, she’s discovered a love of meeting new people, building communication skills, and pushing herself beyond her comfort zone.


Cwblhaodd Peyton ei Gwobrau Efydd, Arian ac Aur yn y Gwasanaeth Ieuenctid ac mae nawr yn gweithio tuag at Wobr Aur. Mae Peyton wedi ymgymryd â phob rhan o’r profiad, o ddawnsio i wirfoddoli yn ei sinema leol. Mae hi hefyd yn Hyrwyddwr Cymunedol, sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am y cyfraniad sylweddol mae’n ei wneud drwy wirfoddoli a chefnogi ei chymuned leol pryd bynnag mae’n gallu. Mae DofE wedi galluogi i Peyton archwilio ei diddordebau, gan roi syniad gwell iddi o’r llwybr i’w gymryd cyn camu ymlaen gyda’i haddysg. Drwy DofE, mae wedi darganfod hoffter o gyfarfod pobl newydd, adeiladu sgiliau cyfathrebu, a gwthio ei hun y tu hwnt i’r hyn mae’n gyfforddus ag ef.

Robert

Robert completed his Bronze, Silver and Gold Awards in the RAF Air Cadets. Although he initially signed up because it was something lots of cadets took part in, he soon discovered how much he enjoyed the experience and the opportunities it offered. Robert has explored everything from aviation studies and Taekwondo to volunteering with cadets and the Poppy Appeal. As a DofE Cymru Youth Ambassador, Robert is keen to encourage more young people to stick with the Awards and experience the opportunities, achievements and memories that come from completing the journey all the way to Gold.


Cwblhaodd Robert ei Wobrau Efydd, Arian ac Aur gyda Chadetiaid y Llu Awyr Brenhinol. Er iddo gofrestru yn y lle cyntaf oherwydd ei fod yn rhywbeth roedd llawer o gadetiaid yn cymryd rhan ynddo, buan y sylweddolodd cymaint roedd yn mwynhau’r profiad a’r cyfleoedd roedd yn ei gynnig. Mae Robert wedi archwilio popeth o astudiaethau awyrenegol a Taekwondo o wirfoddoli gyda chadetiaid ac Apêl y Pabi. Fel Llysgennad i’r Ifanc DofE Cymru, mae Robert yn awyddus i annog mwy o bobl ifanc i ddyfalbarhau gyda’r Gwobrau a phrofi’r cyfleoedd, y llwyddiant a’r atgofion sy’n dod gyda chwblhau’r daith yr holl ffordd at y Wobr Aur.

Seren

Seren has completed her Bronze and Silver Awards with the Youth Service, initially signing up with a friend but choosing to continue even when they dropped out. Through DofE, Seren has tried new skills such as cooking and volunteered helping on an allotment. Passionate about helping others and giving back, Seren is now inspired to pursue a future in youth work and is keen to show others that DofE is far more than people expect.


Mae Seren wedi cwblhau ei Gwobrau Efydd ac Arian gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid, gan gofrestru gyda ffrind yn y lle cyntaf ond gan ddewis parhau hyd yn oed pan wnaethant roi’r gorau iddi. Drwy’r DofE, mae Seren wedi rhoi cynnig ar sgiliau newydd megis coginio a gwirfoddoli gan helpu ar randir. A hithau’n angerddol dros helpu eraill a rhoi’n ôl, mae Seren nawr wedi’i hysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn gwaith ieuenctid yn y dyfodol ac mae’n awyddus i ddangos i eraill bod DofE yn llawer mwy na’r hyn mae pobl yn ei ddisgwyl.

Nia

Nia is currently completing her Silver Award after successfully achieving Bronze. A proud Welsh speaker, Nia completed her DofE through a Welsh-medium school and credits the Award with introducing her to experiences she never imagined she’d enjoy, including her first ever camping trip. From volunteering at parkrun to teaching skiing, she has embraced new challenges while creating unforgettable memories with friends. One of Nia’s favourite things about DofE is the chance to disconnect from everyday life, spend time outdoors and discover what she’s capable of achieving.


Mae Nia wrthi’n cwblhau ei Gwobr Arian ar hyn o bryd wedi iddi gyflawni’r Efydd yn llwyddiannus. A hithau’n siaradwr Cymraeg balch, cwblhaodd Nia ei DofE drwy ysgol cyfrwng Cymraeg ac mae’n cydnabod bod y Wobr wedi ei chyflwyno i brofiadau na fyddai hi erioed wedi dychmygu y byddai’n eu mwynhau, gan gynnwys ei thaith gwersylla gyntaf erioed. O wirfoddoli mewn Parkrun i ddysgu sgïo, mae wedi ymroi i heriau newydd wrth greu atgofion bythgofiadwy gyda ffrindiau. Un o hoff bethau Nia ynghylch DofE yw’r siawns i ddatgysylltu oddi wrth fywyd bob dydd, treulio amser yn yr awyr agored a darganfod yr hyn mae’n gallu ei gyflawni.

Sam

Sam completed his Bronze, Silver and Gold Awards while at school. Despite managing asthma and not always loving the walking side of DofE, Sam became known for keeping team morale high and making sure everyone was enjoying the journey. From helping at a local youth club and improving his singing, Sam used DofE as an opportunity to try new experiences and grow in confidence. He is passionate about sharing his story to encourage other young people who think DofE “isn’t for them” or who doubt their own abilities. Samuel is currently studying Art and Design at Bangor University.


Cwblhaodd Sam ei Wobrau Efydd, Arian ac Aur pan oedd yn yr ysgol. Er gwaethaf rheoli asthma a ddim bob amser yn hoffi agweddau yn ymwneud â cherdded o DofE, daeth Sam yn adnabyddus am gadw morâl y tîm yn uchel a gwneud yn siŵr bod pawb yn mwynhau’r daith. O helpu mewn clwb ieuenctid lleol a gwella ei ganu, defnyddiodd Sam DofE fel cyfle i roi cynnig ar brofiadau newydd a meithrin hyder. Mae’n llawn brwdfrydedd ynghylch rhannu ei stori er mwyn annog pobl ifanc eraill sy’n meddwl nad yw DofE yn rhywbeth iddyn nhw neu sy’n amau eu gallu eu hunain. Mae Samuel yn astudio Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd.

Toby

Toby completed his Bronze and Silver DofE Awards through school and credits DofE with helping him build the confidence and skills to take on adventures of his own, including organising camping trips with friends in the Brecon Beacons. From playing chess and cycling long distances to volunteering with Scouts, Toby embraced a wide range of opportunities through his DofE journey. As a DofE Cymru Youth Ambassador, Toby has an interest in politics and he is excited to help shape the future of DofE for young people across Wales.


Cwblhaodd Toby ei Wobrau Efydd ac Arian DofE drwy’r ysgol ac mae’n cydnabod y cymorth a gafodd gan DofE i feithrin hyder a sgiliau er mwyn mynd ar ei anturiaethau ei hun, gan gynnwys trefnu teithiau gwersylla gyda ffrindiau ym Mannau Brycheiniog. O chwarae gwyddbwyll a beicio pellteroedd hir i wirfoddoli gyda’r Sgowtiaid, fe wnaeth Toby ymgymryd ag ystod eang o gyfleoedd drwy ei daith DofE. Fel Llysgennad i’r Ifanc DofE Cymru, mae gan Toby ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac mae’n llawn cyffro wrth feddwl am lunio dyfodol DofE ar gyfer pobl ifanc led-led Cymru.

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.